PET(4)-06-11 p15a

P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol

Geiriad y ddeiseb: Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi manylion yr holl wariant dros £500 er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r manylion gael eu cyhoeddi ar-lein ac mewn fformat sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gyda’r rhyddid i ailddefnyddio’r data.

Linc i’r ddeiseb:http://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-closed-petition-signatories_all.htm?pet_id=583

Cyflwywyd y ddeiseb gan: Jacqui Thompson

Nifer y llofnodion: 77

Gwybodaeth ategol: Mae nifer o gynghorau yn Lloegr bellach yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar eu gwefannau. Mae’r wybodaeth yn barod ar gael yng nghronfeydd data’r cynghorau, felly’r cyfan sydd angen ei wneud yw casglu’r wybodaeth mewn man canolog ac mewn ffordd hygyrch sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Rheoli Data. Byddai’r gost gychwynnol yn cael ei had-dalu gan yr arbedion a ddaw yn sgîl gostyngiad yn nifer y ceisiadau rhyddid gwybodaeth y mae awdurdodau lleol yn eu cael mewn perthynas â manylion gwariant.